Rhif y ddeiseb: P-06-1264

Teitl y ddeiseb: Gwarantu cludiant ysgol ar gyfer holl ddisgyblion ysgolion cyfun

Geiriad y ddeiseb: Gwrthodwyd i o leiaf 27 o blant 11-12 oed gael cludiant i’w hysgol gyfun agosaf. Mae gan rai o'r plant ifanc hyn gyflyrau meddygol fel asthma ac awtistiaeth ac mae gan o leiaf 1 plentyn epilepsi ac mae disgwyl iddynt gerdded i'r ysgol ym mhob tywydd.  Mae'r plant hyn wedi cael eu gwahanu oddi wrth ffrindiau sydd wedi gallu cael pas bws, a dim ond nifer gyfyngedig o blant sydd wedi'u gwrthod.  Mae’n warthus.

Dim ond nifer gyfyngedig o blant sydd wedi'u heithrio rhag cael pas bws, a hynny oherwydd cyfreithiau a gyflwynwyd gan Lywodraeth Cymru, llywodraeth sydd i fod yn rhoi blaenoriaeth i les plant.  Mae yna oedolion ifanc 16 oed yn cael pas oherwydd eu bod yn yr ysgol cyn i'r gyfraith hon gael ei newid, felly er bod y rhain yn ddigon aeddfed i ddod o hyd i fath arall o gludiant, mae plant 11 a 12 oed yn cerdded mewn tywydd echrydus ar hyd ffyrdd peryglus. Mae addysg yn orfodol yn y wlad hon ac felly dylai cludiant fod ar gael i bob disgybl os nad yw'r ysgol gyfun yn y pentref y maent yn byw ynddo. Rydym i gyd yn talu trethi, gan gynnwys taliadau cymunedol ac ni ddylai’r Llywodraeth fod wedi gwneud toriadau i’r ddarpariaeth addysg.
Dylai fod yn hanfodol i blant fedru cyrraedd yr ysgol yn ddiogel ac yn sych. Creulondeb llwyr yw gwneud i blant ifanc gerdded 3 milltir mewn pob math o dywydd yn wlyb socian ac yn eistedd mewn gwersi drwy'r dydd.


1.        Y cefndir

1.1.            Yr hawl ar hyn o bryd i gludiant am ddim o'r cartref i'r ysgol

O dan ddarpariaethau’r Mesur Teithio gan Ddysgwyr (Cymru) 2008, mae’n rhaid i awdurdodau lleol ddarparu cludiant am ddim rhwng y cartref a'r ysgol i ddysgwyr o oedran ysgol gorfodol sy'n byw ymhellach na phellteroedd penodol o'u hysgol addas agosaf. Mae'r pellteroedd a elwir yn bellteroedd cerdded wedi'u nodi yn y Mesur. Y pellteroedd statudol yw dwy filltir i ddisgyblion ysgolion cynradd a thair milltir i ddisgyblion ysgolion uwchradd.

Mae’r hawl i gludiant ysgol am ddim a phellteroedd cerdded statudol yn tarddu o Ddeddf Addysg 1944, a oedd yn nodi pellteroedd cerdded fel dwy filltir ar gyfer disgyblion oedran ysgol gorfodol 8 oed ac iau, a thair milltir ar gyfer disgyblion hŷn.  Roedd Deddf Addysg 1993 yn ailddatgan y pellteroedd hyn.

1.2.          Asesu anghenion dysgwyr

O dan ddarpariaethau Mesur Teithio gan Ddysgwyr (Cymru) 2008, mae'n ofynnol i awdurdodau lleol asesu anghenion teithio dysgwyr sydd o dan 19 oed yn eu hardal. Mae hyn yn cynnwys y rhai y mae rheidrwydd cyfreithiol arnynt i ddarparu cludiant ar eu cyfer a'r rhai y maent yn dymuno darparu cludaint ar eu cyfer yn ôl eu disgresiwn eu hunain wrth asesu anghenion teithio. Mae hefyd yn ofynnol i awdurdod ystyried:

§    Anghenion unrhyw ddysgwyr anabl a dysgwyr sydd ag anawsterau dysgu;

§     Anghenion penodol dysgwyr 'sy'n derbyn gofal' neu sydd wedi derbyn gofal yn ffurfiol gan awdurdod lleol;

§    Oedran y dysgwr;

§    Y math o lwybr y disgwylir i'r dysgwr ei ddilyn rhwng y cartref a lleoliad yr addysg neu'r hyfforddiant.

1.3.          Llwybrau sydd ar gael

Mae'r Mesur yn nodi y dylid mesur y pellter cerdded 'ar hyd y ffordd fyrraf sydd ar gael'.  Ystyrir bod ffordd "ar gael" os yw'n ddiogel (cyn belled ag y bo'n ymarferol resymol) i ddysgwr heb anabledd neu anhawster dysgu gerdded y ffordd ar ei ben ei hun, neu gyda hebryngwr sy'n oedolyn pe byddai oed a lefelau dealltwriaeth y dysgwr yn galw am ddarparu hebryngwr.

Os nad yw ffordd 'ar gael' ac nad oes llwybr cerdded arall ar gael o fewn y pellter perthnasol, ni ellir disgwyl i'r dysgwr gerdded i'r ysgol addas agosaf, hyd yn oed os yw'r pellter rhwng y cartref a'r ysgol yn llai na'r pellter sy'n gymwys i oedran y dysgwr.  Mewn achosion felly, mae gan yr awdurdod lleol ddyletswydd i ddarparu cludiant am ddim i'r dysgwr i'r ysgol addas agosaf ac oddi yno.

1.4.          Darpariaethau yn ôl disgresiwn

Yn ogystal â darpariaeth statudol, mae gan awdurdodau lleol bwerau dewisol i ddarparu cludiant o'r cartref i'r ysgol ar gyfer dysgwyr eraill sy'n byw neu'n astudio yn ardal yr awdurdod. Fodd bynnag, os yw awdurdod lleol yn defnyddio ei bwerau disgresiwn, mae'n rhaid i'r awdurdod sicrhau bod y polisi yn cael ei gymhwyso i bob dysgwr sy'n wynebu amgylchiadau tebyg yn ardal yr awdurdod hwnnw. Er nad yw'n ofynnol i awdurdodau lleol gynnig cludiant am ddim, rhai enghreifftiau o adegau y gellir defnyddio'r ddarpariaeth cludiant yn ôl disgresiwn yw ar gyfer:

§    Plant o dan bump oed;

§    Ysgolion cyfrwng Cymraeg nad ydynt yn ysgolion addas agosaf;

§    Ysgolion ffydd nad ydynt yn ysgolion addas agosaf;

§    Dysgwyr ôl-16 sy'n parhau â'u hastudiaethau mewn addysg bellach neu hyfforddiant prif-ffrwd.

2.     Camau gan Lywodraeth Cymru

Ym mis Tachwedd 2019, ymrwymodd Llywodraeth flaenorol Cymru i adolygu'r ddeddfwriaeth ar Deithio gan Ddysgwyr o ran dysgwyr ôl-16. Yn Natganiad Ysgrifenedig y Cabinet ar y cyd, dywedodd Gweinidog y Gymraeg, Addysg a Chysylltiadau Rhyngwladol; y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol a Dirprwy Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth:

Rydym yn cytuno bod y ddeddfwriaeth bresennol sy'n gosod dyletswyddau ar awdurdodau lleol i wneud trefniadau i gludo dysgwyr o oedran ysgol statudol ar sail pellter, cymhwyster a diogelwch, yn gweithio'n dda yn gyffredinol. Wedi dweud hynny, gwyddom fod pryder cynyddol ymhlith dysgwyr ôl-16 pan fo gan yr awdurdodau lleol ddisgresiwn dros drefniadau teithio.

 


Yn ôl Datganiad gan y Cabinet ym mis Awst 2020, cafodd yr adolygiad ei ymestyn i gynnwys y grŵp oedran 4-16 oed a'r trothwy milltiroedd presennol ar gyfer trafnidiaeth am ddim. Roedd disgwyl i'r adolygiad ddod i ben erbyn diwedd mis Mawrth 2021, ond ni chyhoeddwyd yr adolygiad oherwydd y cyfnod cyn yr etholiad yn arwain at etholiadau Senedd 2021 a gynhaliwyd ym mis Mai 2021.  Roedd ymateb Llywodraeth Cymru i Adroddiad Blynyddol Comisiynydd Plant Cymru 2020-21(Tachwedd 2021) yn dweud:

Daeth yn amlwg, o ganlyniad i drafodaethau a chysylltu â rhanddeiliaid fel rhan o’r adolygiad cychwynnol, fod problemau eraill ynghlwm â darpariaeth bresennol y Mesur Teithio gan Ddysgwyr sy’n golygu bod angen adolygiad pellach, mwy manwl. Bydd yr adroddiad interim yn cael ei gyhoeddi nawr a bydd swyddogion yn ystyried sut orau i symud ymlaen â’r gwaith pellach sy’n ofynnol er mwyn adolygu teithio gan ddysgwyr yng Nghymru.

3.     Camau gan Senedd Cymru

Yn 2017, bu Pwyllgor Deisebau y Bumed Senedd yn ystyried deiseb, Cludiant Ysgol Am Ddim i Holl Blant Cymru.  Cafodd y Pwyllgor ohebiaeth gan Ken Skates, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a’r Seilwaith ar y pryd, a gofynnodd am farn y Deisebydd, ond ar ôl methu â chysylltu â’r deisebydd, caewyd y Ddeiseb.

Mae’r Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg wedi ysgrifennu at Y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd i ofyn am y wybodaeth ddiweddaraf am yr adolygiad a gychwynnwyd gan Lywodraeth Cymru ym mis Tachwedd 2019.

 

Gwneir pob ymdrech i sicrhau bod y wybodaeth yn y papur briffio hwn yn gywir adeg ei gyhoeddi. Dylai darllenwyr fod yn ymwybodol nad yw’r papurau briffio hyn yn cael eu diweddaru o reidrwydd na’u diwygio fel arall i adlewyrchu newidiadau dilynol.